15.12.20- Drafft o gynnig i fynd gerbron Cabinet Cyngor Sir Gwynedd
(i’w drafod yn gyntaf ym Mhwyllgor Craffu Cymunedau’r Cyngor)
GWAITH YMCHWIL TAI GWYLIAU - Y PENDERFYNIAD A GEISIR
Yn wyneb yr angen i gael gwell rheolaeth ar dai sydd yn cael eu tynnu allan o’r cyflenwad sydd ar gael i bobl leol, a thrwy hynny i roi buddiannau trigolion lleol yn gyntaf, cymeradwyir y gwaith ymchwil (a baratowyd gan swyddogion y Cyngor) i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru ac y dylid:-
a) Galw ar y Llywodraeth ar fyrder i efelychu'r hyn sydd yn digwydd yn yr Alban a diwygio’r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) er mwyn cynnwys dosbarth defnydd ychwanegol ar gyfer llety gwyliau tymor byr. Byddai hynny yn ei dro yn caniatáu i awdurdodau adnabod ‘ardaloedd rheoli’ lle byddai’n ofynnol derbyn hawl cynllunio ar gyfer newid defnydd tŷ preswyl i’w ddefnyddio fel llety gwyliau tymor byr o fewn yr ‘ardal rheoli’ penodedig.
b) Er mwyn cynorthwyo i gadw rheolaeth dylid hefyd galw am gyflwyno cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer llety gwyliau tymor byr fyddai’n gyfrifoldeb i’r awdurdod lleol ei weithredu.
c) Tra byddai’r uchod yn cynorthwyo’r Cyngor i gael gwell rheolaeth ar dai sy’n cael eu defnyddio at ddibenion gwyliau, ni fyddai modd osgoi/rheoli tai yn cael eu troi yn ail gartrefi (oni bai am y rhai sydd yn cael eu gosod yn achlysurol/parhaol). Er mwyn sicrhau fod gan y Cyngor y modd ariannol i helpu i wneud yn iawn am y diffygion yn y cyflenwad y byddai hynny yn ei greu, ein bod yn galw ar y Llywodraeth i newid ei safiad ac i weithredu ar fyrder i newid y Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol fel bod unrhyw dŷ annedd sydd ddim yn brif neu unig gartref i unigolyn (boed yn ail gartref neu’n dŷ a ddefnyddir at ddibenion llety gwyliau tymor byr) yn cael ei ddiffinio fel tŷ annedd er pwrpas trethu (a thrwy hynny yn talu unrhyw bremiwm Treth Cyngor a benderfynir arno’n lleol). Fe fyddai unrhyw lety gwyliau tymor byr sydd wedi derbyn hawl cynllunio pwrpasol ar gyfer y defnydd hynny yn parhau i fod yn gymwys ar gyfer talu Treth Busnes Annomestig.